Gan fod tai yn cael eu trin fel asedau yn hytrach na fel cartrefi, mae pobl ar gyflogau lleol yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai lleol ac yn gorfod gadael yr ardal, pobl ifanc yn enwedig.
Mae’r nifer uchel o dai gwyliau ac Air BnB yn dwysau’r broblem ac yn gosod dyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol yn y fantol.
Tra bod rhai unigolion yn gallu prynu mwy nag un tŷ, a’i ddefnyddio am rai wythnosau bob blwyddyn, dydy pobl leol ddim yn gallu ffordio prynu neu rentu cartref o gwbl.
Mae hyn yn sefyllfa anfoesol ac yn peryglu dyfodol cymunedau ar draws Cymru.
Nid parc gwyliau ydi ein cymunedau, parchwch ddymuniad ein cymunedau i fyw ac i ffynnu.